SWYDDOG Y DDALFA PEN-Y-BONT AR OGWR £29,500.00
SWYDDOG Y DDALFA
Location: PEN-Y-BONT AR OGWR | Salary: £29,500.00 | Posted: 28 Nov 2024 | Closes: 26 Dec 2024 | Job Type: Full Time and Permanent | Business Unit: UK Central Government Services | Region / Division: UK & Ireland | Reference: 16562Role Responsibility:
SWYDDOG Y DDALFA
CEF PARC, PEN-Y-BONT AR OGWR
Oriau: 40 awr yr wythnos
Parhaol, Llawn Amser gyda shifftiau amrywiol
Cyflog Cychwynnol £29,500
Ar ôl 1 flwyddyn o wasanaeth £29,900
Ar ôl 2 flynedd o wasanaeth £31,500
Buddion: Pensiwn y Cwmni, parcio am ddim ar y safle, ffreutur staff, gwisg am ddim, mynediad i ostyngiadau yn Siopau’r Stryd Fawr, gostyngiadau Campfa leol a hyfforddiant a datblygiad helaeth.
Byddwch y person hwnnw sy’n gwneud gwahaniaeth bob dydd, y cyfle i wneud swydd eithriadol
Ydych chi’n gyfathrebwr da? A oes gennych wydnwch? Gwrandäwr da?
Mae Swyddogion Dalfeydd Carchar (PCOs) yn allweddol i redeg ein carchardai yn effeithiol ac rydym yn chwilio am bobl sy’n gallu ffitio’n naturiol i’r rôl hon. Nid oes y fath beth â Swyddog Dalfa Carchar ‘nodweddiadol’. Rydym yn annog ceisiadau gan unigolion o ystod amrywiol o gefndiroedd, sy’n dangos yr uniondeb, y gwydnwch a’r sgiliau cyfathrebu cryf sydd eu hangen i ffynnu yn y rôl hon. Nid oes angen unrhyw gymwysterau penodol na phrofiad perthnasol.
Athroniaeth ein carchardai yw adsefydlu troseddwyr a’u harfogi i ailintegreiddio i gymdeithas brif ffrwd ar ôl eu rhyddhau. Rydym yn ceisio normaleiddio amodau carchardai cyn belled ag y bo modd i adlewyrchu bywyd yn y gymuned y tu allan. Ein nod yw creu amgylchedd lle mae staff a charcharorion yn teimlo’n ddiogel.
Bydd gan y bobl yn eich gofal amrywiaeth o anghenion a’ch rôl chi fydd sicrhau bod yr unigolion hynny’n cael eu trin ag urddas a pharch ac yn cael cymorth i ddod o hyd i ffordd newydd o fyw tra’n cynnal amgylchedd diogel, sicr a strwythuredig.
Bydd gennych nifer o gyfrifoldebau allweddol sy’n cynorthwyo diwygio Carcharorion, yn ogystal â chwarae rhan allweddol wrth ddarparu strwythur a threfn arferol i garcharorion, gan sicrhau eu bod yn cyrraedd y gwaith yn y bore, yn cymryd rhan weithredol mewn addysg a chyfundrefn y carchar a’u bod yn ddiogel yn eu cell gyda’r hwyr.
The Ideal Candidate:
Pan fyddwch yn ymuno â ni, gallwch fod yn sicr y byddwch yn canfod amgylchedd gwaith diogel, cyfeillgar a phroffesiynol ac yn cael yr holl gefnogaeth, hyfforddiant ac anogaeth sydd eu hangen arnoch. Yn ogystal, rydym wedi lansio ein Llwybr Datblygu yn ddiweddar, sy’n darparu datblygiad gyrfa clir o Swyddog y Ddalfa i fod yn rheolwr canol, pe bai hynny o ddiddordeb i chi hefyd.
Mae eich hyfforddiant cychwynnol yn para am 8 wythnos, lle byddwch yn derbyn hyfforddiant cynhwysfawr sy’n cynnwys Rheoli ac Atal, Cymorth Cyntaf, sgiliau rhyngbersonol ac Iechyd a Diogelwch.
Mae Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan bwysig o Wasanaeth Gofal ac Adsefydlu G4S. Rydym yn annog ceisiadau o bob cefndir ac rydym yn gyflogwr cwbl gynhwysol sy’n ceisio cefnogi’r holl weithwyr i fod eu hunain. Rydym yn hapus i drafod unrhyw addasiadau rhesymol naill ai ar gyfer y rôl neu yn ystod y broses recriwtio.
Mae G4S CaRS wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant ac oedolion sy’n wynebu risg a disgwylir i bob gweithiwr gefnogi’r nodau hyn.
Mae ein hyfforddiant a’n harferion gweithredol yn pwysleisio’r angen i drin carcharorion ag urddas a pharch ac mae staff G4S yn meithrin perthnasoedd cadarnhaol a chefnogol gyda’r carcharorion yn eu gofal.
Mae gan ein tîm gyfle gwirioneddol i wneud gwahaniaeth ac rydym yn annog pobl i wella’r ffordd rydym yn gweithredu a datblygu ffyrdd newydd o weithio i wella diogelwch a chefnogi carcharorion yn well. Os ymunwch â ni, byddwch mewn amgylchedd gwaith diogel, cyfeillgar a phroffesiynol ac fe gewch yr holl gefnogaeth, hyfforddiant ac anogaeth sydd eu hangen arnoch i adeiladu a datblygu gyrfa lwyddiannus gyda ni.
Rydym yn annog ceisiadau gan ymgeiswyr Cymraeg eu hiaith.
Am rhagor o wybodaeth am CEF Parc, ewch i https://hmpparc.co.uk/
Sylwch fod y swyddi gwag hyn yn amodol ar hanes 5 mlynedd y gellir ei wirio a’r safonau fetio llym a osodwyd gan G4S, a HMPPS ac maent wedi’u heithrio o’r Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr.
Jobs that might be of interest:
Senior Security ManagerLocation: MILTON KEYNES, Buckinghamshire
Apply now Use of Force Advisor
Location: MILTON KEYNES, Buckinghamshire
Apply now Resettlement Caseworker
Location: Milton Keynes
Apply now SECURE CARE OFFICER
Location: Milton Keynes
Apply now Ambulance Care Assistant (Driver)
Location: Stanmore HA7 4LP
Apply now