SWYDDOG DDALFA Y CARCHAR
Bridgend, 英国
SWYDDOG DDALFA Y CARCHAR
CEF a STI PARC, PEN-Y-BONT AR OGWR, CF35 6AP
Parhaol, Llawn Amser (40 awr yr wythnos gyda shifftiau amrywiol
Cyflog Cychwynnol £30,267.00
Ar ôl 1 mlynedd o wasanaeth £31,036.50
Ar ôl 3 blynedd o wasanaeth £32,319.00
Ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth £33,858.00
Ar ol cwbwlhau eich 12 mis cyntaf o wasanaeth a'ch cyfnod prawf terfynol yn llwyddianus, byddwch yn derbyn bonws o £1000
Buddion: Pensiwn y Cwmni, hawl gwyliau blynyddol o 264 awr y flwyddyn mewn Gwyliau Banc, parcio am ddim ar y safle, ffreutur staff, gwisg cwmni am ddim, mynediad i gostyngiadau yn Siopa y stryd fawr a hyfforddiant a datblygiad helaeth.
Gwnewch Gwahaniaeth Bob Dydd
Rydym yn chwilio am Swyddogion Dalfeydd y Carchar (PCO) sy'n gyfathrebwyr rhagorol,cydnerth, a gwrandawyr da. Mae’r PCO yn hanfodol i weithrediad effeithiol ein carchardai. Rydym ni yn croesawu ceisiadau o bob cefndir cyn belled â bod gennych uniondeb, gwydnwch, a sgiliau cyfathrebu cryf. Nid oes angen unrhyw gymwysterau neu brofiad penodol.
Bydd gan y bobl yn eich gofal amrywiaeth o wahanol anghenion a'ch rôl chi fydd hi i sicrhau bod yr unigolion hynny’n cael eu trin ag urddas a pharch a'u bod yn cael cymorth i ddod o hyd i ffordd newydd o fywyd tra’n cynnal amgylchedd diogel, sicr a strwythuredig.
Ein Athroniaeth
Nod ein carchardai yw adsefydlu troseddwyr a'u paratoi ar gyfer ailintegreiddio i gymdeithas. Rydym yn ymdrechu i normaleiddio amodau carchardai a chreu amgylchedd diogel i staff a carcharwyr.
Am y rôl
Byddwch yn sicrhau bod carcharorion yn cael eu trin ag urddas a pharch tra'n cynnal amgylchedd saff a diogel. Byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth ddarparu strwythur a threfn arferol, gan sicrhau y bydd carcharorion yn mynychu gwaith ac addysg, ac yn dilyn trefn y carchar.
Bydd gennych nifer o gyfrifoldebau allweddol sy’n cynorthwyo diwygio Carcharorion, yn ogystal â chwarae rôl allweddol wrth ddarparu strwythur a threfn arferol i garcharorion, gan sicrhau eu bod yn cyrraedd y gwaith yn y bore ac yn cymryd rhan weithredol mewn addysg a chyfundrefn y carchardai ac yn ddiogel yn ei cell gyda’r nos.
- . Cwblhau gwaith papur ac adroddiadau.
- . Cynnal cyfyngiadau ar garcharorion& #39; rhyddid wrth amddiffyn eu hawliau
- . Sicrhau bod carcharorion yn cael eu trefn a'u breintiau
- . Lleihau risgiau i ddiogelwch
- . Rheoli digwyddiadau ac argyfyngau, a all gynnwys defnyddio Chamerâu Fideo a wisgir ar y corff
- . Hyrwyddo diwylliant adsefydlu a gwaith tîm
- . Herio ymddygiad gwael a hybu ymddygiad cadarnhaol
- . Annog carcharorion i gymryd rhan mewn gweithgaredd pwrpasol a canolbwyntio ar ei hymddygiad troseddol.
- .Ymateb i gamddefnyddio sylweddau
- . Darparu cymorth cyntaf, megis CPR
- . Asesu risg a bregusrwydd carcharorion a'u cyfeirio at ofal cymdeithasol os oes angen
- . Cynorthwyo carcharorion ag anghenion niwroamrywiol
- . Asesu anghenion gofal iechyd mewn argyfwng
- . Cynnal sesiynau un-i-un wythnosol i garcharorion bregus
- . Cynnal gwiriadau lles
- . Asesu'r risg o hunan-niweidio neu hunanladdiad
- Cefnogi carcharorion a lles meddyliol
Hyfforddiant a Datblygiad
Rydym yn darparu hyfforddiant cynhwysfawr am 8 wythnos, gan gynnwys Rheoli & Ataliaeth, Cymorth Cyntaf,Sgiliau rhyngbersonol, ac Iechyd & Diogelwch. Mae gennym ni hefyd Lwybr Datblygu ar gyfer dyrchafiad gyrfa.</p>
Yn ogystal, rydym wedi lansio ein Llwybr Datblygu yn ddiweddar, sy'n darparu'n glir datblygiad gyrfa o Swyddog y Ddalfa Carchar hyd at rheolwr canol, pe bai hynny hefyd fod o ddiddordeb i chi.
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Rydym yn annog ceisiadau o bob cefndir ac rydym yn gyflogwr cwbl gynhwysol. Yr ydym yn hapus i drafod unrhyw addasiadau rhesymol.
Diogelu
Mae G4S CaRS wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant ac oedolion mewn perygl. Rhaid i ddeiliad y swydd ymgymryd a'r lefel briodol o hyfforddiant ac mae'n gyfrifol am sicrhau ei fod yn deall ac yn gweithio o fewn polisisau diogelu'r sefydliad.
Ein Tîm
Mae ein tîm yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ac rydym yn annog ffyrdd newydd o weithio i wella diogelwch a gwell cefnogaeth i garcharorion. Fe welwch weithiwr diogel, cyfeillgar a phroffesiynol mewn amgylchedd gyda'r holl gefnogaeth a hyfforddiant sydd eu hangen arnoch i adeiladu gyrfa lwyddiannus.
Gwybodaeth Ychwanegol
. Rydym yn annog ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n siarad Cymraeg.
. Mae'r swyddi gwag hyn yn amodol ar hanes 5 mlynedd y gellir ei wirio a fetio llym.
.Rhaid i chi fod yn gymwys i weithio yn y DU.
Bydd y bonws o £1000 yn cael ei dalu yn eich cyflog ar ol cwblhau eich 12 mis cyntaf o wasanaeth ac ar yr amod eich bod wedi cwblhau eich cyfnod prawf yn llwyddiannus.
相關內容
-
探索 G4S 在歐洲的職業發展探索歐洲 G4S的職業機會。搜尋職缺、設定提醒並立即申請加入全球保安領域的領導者。
-
探索 G4S 在亞洲和中東地區的職業發展在 G4S,我們致力於培養不斷發展的文化,並鼓勵各個職位的員工提高技能並充分發揮他們的潛力。
-
G4S 的保安服務探索 G4S 的高回報安全職業。加入我們遍佈全球的專業團隊,保護社群並提供創新的安全解決方案。
-
G4S 的現金解決方案探索 G4S 現金解決方案職位。加入我們的創新團隊,在現金管理和安全領域提升您的職業生涯。
-
G4S 的監管與更生服務探索 G4S 的監管與更生服務職位。加入我們的團隊,強化周邊安全,並推動創新且具影響力的社會關懷與安保服務方案。
-
G4S 設施管理探索 G4S 的設施管理職位。加入我們的創新團隊,推動安全、高效的營運。
-
G4S的風險管理探索 G4S 的風險管理職缺。加入我們的專家團隊,利用業界領先的安全解決方案進行創新並保護企業。
-
G4S 的後勤和營運職位探索 G4S 的各種後勤職缺和機會,從 IT、行政和人力資源到專案管理、財務和客戶服務。
-
G4S 員工福利了解我們的綜合福利,從專業發展到健康和保健。在 G4S,我們希望我們的員工能夠蓬勃發展並發揮他們的潛力。
-
探索 G4S 在非洲的職業發展探索 G4S 在非洲的職業機會。搜尋職缺、設定提醒並立即申請加入全球保安領域的領導者。
-
探索拉丁美洲的 G4S 職業探索拉丁美洲 G4S 的職業機會。搜尋職缺、設定提醒並立即申請加入全球保安領域的領導者。
-
探索英國和愛爾蘭的 G4S 職業探索英國和愛爾蘭 G4S 的職業機會。搜尋職缺、設定提醒並立即申請加入全球保安領域的領導者。
-
G4S 的文化與歸屬感對文化與歸屬感的投資推動了我們的成功——增強了我們全球團隊的職業發展、社區保障和創新解決方案。
-
G4S 的健康與安全員工的安全和福祉是 G4S 的核心價值。為整個行業制定最高的安全標準可以確保我們同事的安全。
-
G4S 的學習與職涯發展在 G4S,我們致力於培養不斷發展的文化,並鼓勵各個層次的人們提高技能並充分發揮他們的潛力。
-
申請流程的面試技巧與常見問答了解更多有關 G4S 的申請流程。我們彙整了申請者最常詢問的問題,幫助您順利完成申請。